Main content

Aled Lewis Evans - Pontio

Ddoe, ceiniogau’r werin
a bontiodd porthladd a chwarel â Phenrallt.
Dyhead a finiogwyd gan freuddwyd cenhedlaeth,
am addysg i’w plant.
Eu haberth fu ein braint ni,
a chreuwyd llwybr i’r Coleg ar y Bryn.

Heddiw, ceir enfys uwchlaw dinas dysg,
wrth bontio’r ddinas drachefn â’r Bryn,
Mae’r Celfyddydau oll yma
yn nawns pair y creu,
a’r hen Awen yn cyniwair yn newydd,
fel y bu’n pontio daear a nef
ers y dechreuad.

Yfory deil ‘Pontio’
uwchlaw bygythiadau,
yn fan lle byddwn ninnau,
fel ein cyndeidiau,
am ganu’n uwch, llefaru’n daerach
gydag arddeliad
berfformiad ein parhad,
ar lwybr wedi’i balmantu i’r sêr.

Aled Lewis Evans. Rhagfyr 2015

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau

Daw'r clip hwn o