Main content
Penillion Newydd i'r Hen Galan
Mae'r flwyddyn wedi'i geni
Yn hwyr y nos eleni,
A heddiw rhag hangover gwaeth
Am lymaid llaeth yn gweiddi.
Mae teulu a chyfeillion
Yn trydar eu cyfarchion,
Yn dod i gwrdd ar ddechrau dydd
Ei gilydd yn y galon.
Bydd 'leni, taerwn ninnau,
Yn ddoethach, er pob amau,
Anwylach, callach, gwell ei gwedd
Na'r llynedd ar ei gorau.
Er gwybod gwell, mae'r ysfa
Heddychlon ar ei heitha',
A chlo ar iet hen winllan ddu
Surfelus y rhyfela.
Mae'r flwyddyn, er ei gwlyped,
Yn newydd o ddiniwed,
Mae iaith ein gobaith yn ei gw锚n,
Hi hen, eleni ganed.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ionawr 2016 - Eurig Salisbury—Gwybodaeth
Eurig Salisbury yw Bardd y Mis ar gyfer Ionawr 2016.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni 大象传媒 Radio Cymru.
Mwy o glipiau Bore Cothi
-
Iestyn Garlick
Hyd: 29:10