Mair Tomos Ifans - Y Cwestiwn
Cerdd gan Mair Tomos Ifans.
Ar y ffordd i'r stiwdio 'ma heddiw
Mi a dybiais fod gen i yr hawl
I neidio ar bob dyn a welwn
A'u swyno a'm canu a'm mawl.
Y mae heddiw yn ddiwrnod Sant Oswald,
Mis Chwefror y dau ddeg a naw,
Neu'r nawfed ar hugain os mynnwch -
Yr un ydi'r diwrnod pan ddaw.
Ac mi ddaw o pob pedair blynedd,
A minnau yn edrych ymlaen
Yn eiddgar iawn ers cyn Dolig
I gyrraedd y wal efo'r maen.
Mi neidiais i ddechra 'r Dei Tomos,
Dwi reit ffond o ddynion 'fo blew,
Ond wedi mi ofyn y cwestiwn,
Mi ddwe'dodd fy mod i rhy dew ....
Y nesa' i mi daro arno
Oedd y Cardi 'na Geraint Lloyd,
Ac er cynnig gwaddol sylweddol,
Mi 'tebodd o 'Na' yn ddi-oed!
A wedyn mi neidiais ar Tomo,
Gofynais yn uchel a ffast,
Ond chlywodd rhen Tomo mo'n nghwestiwn -
Toedd Brian a'i organ ffwl blast!
Dychrynias yr hen Gari Owen
Pan ffoniais i Taro'r Post
A gofyn fy nghwestiwn yn gryno,
Atebodd "Ond beth am y gost "
Mi neidiais, cofleidiais rhen Tudur,
Roedd y crac yn dda iawn rhaid deud,
Ond sgrechiodd yn uchel a'm rhegi ...
ond 'dwi'm'n dallt be' dwi' di 'neud !
A wedyn mi welais i Dylan
A gofyn yn blwmp ac yn blaen,
Ond geiriau go fwys ges i'n ateb,
Roedd o dan dipyn o straen.
' Mond siom ar 么l siom fu fy more,
Af adre i grio'n yr ardd,
A gofyn y cwestiwn eto i' ngwr
"A wnei di fy ngalw i'n fardd ?"
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2016: Mair Tomos Ifans—Gwybodaeth
Bardd y Mis ar gyfer Chwefror 2016 yw Mair Tomos Ifans.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni 大象传媒 Radio Cymru.
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39