Main content

Cadeiriau Amryliw鈥檙 Ysgol Gynradd

Un gadair goch mewn byd mawr, mawr,
Un mor aflonydd ac mor syn,
Yn ddagrau parod ac yn w锚n,
Yn gollwng ond yn dal yn dynn.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Traed yn chwarae uwch y llawr.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Hogyn bach yn hogyn mawr.

Un gadair werdd yn hyder brau,
Yn gleisiau byw, pen-glin yn graith,
Yn llygaid llo a dagrau鈥檔 llyn,
Y byd yn wyn a Santa鈥檔 ffaith.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Traed sydd bron a thwtj a鈥檙 llawr.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Hogyn bach yn hogyn mawr.

Un gadair lwyd a鈥檙 hogia鈥檔 d卯m,
Y byd fel ffilm a鈥檙 ffrindiau鈥檔 fflyd
Ar antur mawr i鈥檙 gofod pell,
A dim un hogan yn y byd.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Traed aflonydd ar y llawr.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Hogyn bach yn hogyn mawr.

Un gadair las, ddiniwed, ddoeth,
Arddegau鈥檔 sibrwd wrth y drws.
Yn dal a byr, yn gryf a gwan,
Yn hogyn mawr a babi tlws.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Traed yn barod, ar y llawr.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Hogyn bach yn hogyn mawr.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau