Main content

TOUR DE MYFS

Er bod gwynt o Fôr Iwerddon a thywod oer y lan
yn chwipio i’w hwynebau bron nes pedlo yn y fan;

er bod yr allt i Lithfaen ar ei serthaf, hiraf un,
a’r bar yn Aberdaron yn bellach na phen draw Llŷn;

er bod rhwng Bermo ac Aber y rhiw yn Borth yn straen,
yn codi i’r entrychion fel yr un yn Abergwaun;

er bod ar hyd Sir Benfro bellach glais ar sawl boch tin
a choesau’n drwm a diffyg mawr ar ambell i ben-glin;

er bod y pyncjiars hefyd wrth eu cannoedd yn cael sbri
a gêrs a tsiaens yn llithro; er y llethrau uwch y lli

a’r llwybrau o Borth Einion, i Gwm Tawe, i Gaerdydd,
i sgwâr Cas-gwent a’r Tour yn dal i rygnu fesul dydd,

yn gefn am bum can milltir, a’u beics yn boen bob un,
i’w cadw efo’i gilydd i’r pen draw roedd Myfs ei hun.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud