"Brud Al a Dainty" gan Rhys Iorwerth
Cerdd i Aled a'i hwch Dainty cyn Sioe Llanelwedd
Mae achos gan bob mochyn
bob tro i ddrwgdybio dyn,
ond ein moch sy鈥檔 fudan mwy
o fwd M么n i fwd Mynwy:
pam yn Llanelwedd, meddwch,
dewis hwn i dywys hwch?
Al Huws? Oes ganddo leisans?
Yna鈥檙 j么c: oes unrhyw jans
y daw i ben 芒鈥檙 da byw?
Boi radio鈥檙 beret ydyw!
Bydd Dainty ni鈥檔 ei Hannwn
wrth ddilyn y niws-ddyn hwn.
Onid Aled yn rhedeg
ar ei h么l yn tuchan rheg
ydi鈥檙 un olygfa drom
(un wir glasur) a glywsom?
Hwn yn hastio鈥檔 anystwyth,
hi鈥檔 taro rhech fel Twrch Trwyth?
Ac er golchi鈥檙 tethi twt
yn ffeind, er mai cynffondwt
ydi Dainty cyn ei dydd,
yn 鈥渨aw鈥 o binc o鈥檙 newydd,
draw ar y llain, arwain hon
i鈥檙 manure 鈥 y mae鈥檔 wirion.
Iddi ei thwlc fydd ei th欧;
rwyt Al yn un o鈥檙 teulu
ond am ei cherdded wedyn?
Yn syber ddiawl, sobra ddyn 鈥
yn ynfyd mae sawl cenfaint
yn eu dom gwlad am gael haint.
Huwsi a Dainty eich dau:
imi heddiw rhaid maddau
ond proffwydaf, ofnaf i
y baeddwch, ac y bydd-hi
heb os (er teimlo drosoch)
ar hyd y maes yn draed moch...
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Gorffennaf 2016 - Rhys Iorwerth—Gwybodaeth
Cerddi gan Rhys Iorwerth, Bardd Gorffennaf 2016.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Asynnod Eryri (Plant Mewn Angen 2024)
Hyd: 12:08
-
GISDA (Plant Mewn Angen 2024)
Hyd: 09:20
-
RAY Ceredigion (Plant Mewn Angen 2024)
Hyd: 08:49