Main content

Ynys draffig

Wrth eistedd
mewn rhes, yn y gwres
ei weld, yr arwydd llon
o’r enw ‘ ynys draffig’.

Safai yn llond addewid
a minnau’n stond,
gwahoddiad oedd
i mi gael mynd ar wib
rhag grŵn peiriant: boned tu ôl
a chist car tu blaen --
gan ymgolli ,llesmeirio
wrth hwylio i ryw ynys las:
a’r cefnfor yn eirias amdanaf,
y tonnau’n faneri gwynion,
a phalmwydd ar y traeth.

Ond glesni’r dychymyg ddaeth i stop
wrth i wynebau glasach weiddi,
a chanu corn fesul corn
yn y glust, a dwylo’n rhegi
wrth i’r golau gwyrddlas rythu.

Thâl hi ddim mewn tagfa draffig
grwydro ymhell o’r llyw, a fiw
i chi ffoi i ias o ffantasi
cyn i’r golau newid ei liw
creu o’ch cragen fetel ryw ynys afallon
sy orau,
a mynd o dow i dow a chyrraedd yn raslon.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

29 eiliad

Dan sylw yn...