Main content

Llythyrau

O’u mewn y mae hanes. Mae rhai mewn llyfrgelloedd; ar goll
y mae eraill yng ngwaelod hen gist, a’r gist ar gau
cyn i rywun ddod i ddadlennu’r cyfrinachau oll,
a throi’n llith academaidd oer y dymestl rhwng dau.

Graenus oedd ysgrifen Goronwy, hyd yn oed wrth gofnodi
marwolaeth Elin yn Walton, cyn croesi’r dŵr;
cain oedd ysgrifen Kate, er ei bod, cyn priodi,
yn datgelu ei rhywioldeb amwys wrth ei darpar-ŵr.

Bob Parry, darlithydd â’i lythyr gan lid wedi’i lethu;
Waldo, yn crwydro ar wasgar, a charchar o’i flaen,
â’i ysgrifen ar wasgar hefyd, rhag y gwawd o’i drethu;
roedd ysgrifen Gwenallt yn gymen, ond yn gam dan y straen

o orweithio i ennill ei blwy fel ysgolhaig
mewn cenedl anwadal, a’i chalon yn galetach na chraig.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud