Main content

Y Pwll

Yng nglas y dydd, af i’r sgwâr
sy’n lasach; ymgolli yn y lli

llon sy’n tonni amdanaf.
Suddo i’w freichiau saff;

arnofio uwch y dŵr, ac ar dro
fi yw’r morlo, dim ond wyneb

i’w weld, cyn troi’n dolffin
trwynbwl gan ddawnsio fry’n

yr awyr. Toc, ac yn y Môr
Du –wyf lwynog y cefnfor.

Byd llawn hud o hyd i mi
yw’r pwll hwn sy’n creu asbri

a phan yw rhai yn dal mewn gwely
gorwedd ar wely glas a wnaf

heb fod ar dir ond yn y dŵr
y daethom ohono’n fabanod bychain.

Fi weithiau yw’r Olympiad penigamp
a’m camp yw ennill medal aur

yn hawdd. Cyn colli anadl gyda strôc
glöyn byw, broga neu nofio ci!

Tic toc arall. ‘ A’r cloc yn taro naw’.
Dringo’r grisiau dur yn wlyb diferol.

Mor oer yw’r concrid wedi croeso’r pwll.

Ond wedi dowcio i’r dŵr o’r dwfn i’r bas—

Bydd, fe fydd fy llygaid, am ryw hyd, yn tonni’n las.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

29 eiliad

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...