Jeli llyffant / Grifft ?
Jeli Llyffant / Grifft ?
Sut ma'i Gerallt,
Syndod mawr i mi oedd dod ar draws grifft llyffant ar y llwybr rhwng Cae Newydd a Brithdir yng Ngwaen Cwm Brwynog ar y 17eg o Ragfyr y llynedd. Fel arfer, wrth gwrs,buaswn yn gobeithio ac yn disgwyl ei weld yn gynnar yn y flwyddyn newydd.O edrych yn fanylach gwelais nad oedd yr un wy du i'w weld, dim ond y jeli llwydliw. Beth yw'r eglurhad?
O wglo (colli "g" wrth dreiglo?!)ar y we, darllenais un cynnig ar eglurhad mewn blog am fferm organig yn Nyfnaint o'r enw Locks Park Farm, a ysgrifenwyd ar y 30ain o Dachwedd, 2008, wedi i'r blogiwr hefyd weld grifft di-smotiau.Dyfynaf: "Robert's explanation was that it had most probably come from a frog killed and opened by a predator, perhaps a heron, with the immature spawn emptying out and expanding in the wet conditions."
Edrychaf ymlaen i glywed eich cynigion a pha mor gyffredin yw taro ar y fath beth.
Diolch i chi i gyd am y rhaglen , byddaf yn rhyfeddu at y brwdfrydedd, y consyrn a'r stor gwybodaeth,
Hefin.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni 大象传媒 Radio Cymru.
Mwy o glipiau 14/01/2017
-
Keith Jones yn son am Ynni Padarn Peris
Hyd: 04:28
-
Ian Keith yn son am y crwban a'r madfall
Hyd: 05:37
Mwy o glipiau Galwad Cynnar
-
Llynnoedd Cymru
Hyd: 02:39
-
Y wennol
Hyd: 03:38