Main content

I Lan-llyn

(Cerdd a ysgrifennwyd yn ystod ymweliad cyntaf Mabon 芒 Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, ddiwedd mis Mai. Ymfudodd rhai o gyndeidiau Mabon o blwy Llangywer ger y Bala, i Batagonia.)

Wrth iti 鈥檓adael
a bachyn bychan arall yn llacio
o afael y graig,
mae dy goflaid ddi-iaith
yn dweud y cyfan.

Tro dy gefn
a dilyna鈥檙 llif llawen i gefn y moto coch
i raffu straeon a chaneuon,
chwerthin a rhegi
yn Gymraeg.

Dy fyd fydd dy fag, dy f锚ts,
y w锚n gyntaf honno
a gofi tra byddi
neu鈥檙 winc ddi-wifr rhwng dau.

Glania鈥檔 gadarn
yng ng么l bro Aran,
wrth gyfarch gwell i鈥檙 Bala dirion, deg,
lle clywi g芒n dy wreiddiau
yn cyfarch o鈥檙 tonnau
yn Gymraeg.

Yno, bydd her mabolgampau
ac mi gei daflu dy bwysau
nes lledu dy ysgwyddau
yn Gymraeg.

Mi wynebi wal
a honno鈥檔 un ddi-ddal
ond cydia鈥檔 dynn -
mi ddaw鈥檙 copa
yn Gymraeg.

A phan fydd llynnoedd du
yn dy fygwth di,
rhwyfa鈥檔 dawel
a dal d鈥檃fael
yn Gymraeg.

Heddiw, dilyna鈥檜 llwybrau
a phlanna 么l dy draed dithau
yn gadarn, yn heriol
yn Gymraeg.

Esyllt Nest Roberts

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o