Siôn Aled - Bardd y Mis
Cerddi Siôn Aled ar Raglen Dewi Llwyd 23.07.17 -
Heddlu Arfog -
Gweinio’r cledd â bloedd heddwch – dathlu cerdd,
dathlu celf a harddwch,
a ledio gwâr wladgarwch.
Gynnau dry’n holl eiriau’n llwch.
- Purdeb -
Mae ‘na gapal ym mhen draw’r pentra ma,
Capal Split,
yn ddewr, unigol, ar wahân i bawb,
yn falch o’i annibyniaeth,
ac yn bur
o lygredd eciwmeniaeth
yr oes drofaus hon.
Mae’n browd o’i hanas hefyd,
a sodla degawda o sgidia Sul
wedi gwisgo’r grisia at lle’r oedd y drws.
Ac mae coedan
â’i gwreiddia ym mhydredd y Sêt Fawr
wedi trywanu’r to
i chwilio am faeth yr haul a’r glaw
sy’n parchu ffiniau neb.
- Llun pâl yn y Sunday Times -
Yng nghanol helbul pobol
a’r ffrae Frexitaidd ddig,
mae pâl, mewn dôl o flodau,
a’i helfa yn ei big.
Mae cip ar smaldod natur
yn codi gwên o hyd:
gan gofio, i lysywen,
mai dyma ddiwedd byd.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Gorffennaf 2017 - Dr Siôn Aled Owen—Gwybodaeth
Dr Siôn Aled Owen yw bardd Radio Cymru ar gyfer Mis Gorffennaf 2017.
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03