Main content

Be fwy sy na i ddeud?

Be fwy sy na i ddeud?
(Cofio tywys criw o ddysgwyr ardal Wrecsam i Drawsfynydd,
Gorffennaf 2013)

Chydig a ddysgai'n dysgwyr yr adeg hynny
tu hwnt i'r iaith.
Am feirdd a phethach felly.
Roedd treigladau'n ddigon o fagl
heb s么n am gynghanedd. Er bod rhai'n gwirioni.

Felly dyma ni ar drip addysgol
ryw Orffennaf chwilboeth
tua'r Traws, Llys Ednowain,
ymlwybro heibio'r cerflun a'r gofgolofn
i'r Ysgwrn, calon y daith.
A phawb yn falch o wasgu i barlwr oer y t欧
rhag gwres y dydd.
Herio ffiniau'u hiaith
wn芒i sgwrs a straeon Gerald wrth erchwyn y Gadair
chaech chi ddim eista ynddi bellach
am ei bod yn fregus.

Gwyddwn yr hanes fy hun, wrth gwrs,
wel, rhan fwya.
A chrwydrai fy llygaid i geisio darllen
yr adwaith yn wynebau'r lleill
wrth arfer 芒'r tywyllwch r么l yr haul.

Dyna gofia i
y Gorffennaf arall yma
sy'n dod 芒 chanrif y coffa
i ben ei mwdwl.
A'r myth yn dal i fwydo
pan nad oes gan hanes
ddim byd mwy i ddeud.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau