Bardd y Mis, Emyr Lewis, ar raglen Aled Hughes
Gan ei fod 100 mlynedd ers cychwyn brwydr Paschendale a lladd Hedd Wyn a miloedd mwy, rwyf wedi cyfansoddi englyn sydd yn cysylltu'r drychineb honno gyda digwyddiadau heddiw.
Yr wyf yn argyhoeddedig fod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn un o'r prif resymau na fu rhyfel mawr rhwng gwladwriaethau Gorllewin Ewrop yn ystod fy oes.
Rwy'n ofidus iawn y gallai Brexit a'r rhethreg gwenwynig gwrth-Ewropeaidd sydd ynghlwm wrtho beryglu'r heddwch hwn, gan gofio mai'r genhedlaeth hyn gan fwyaf a bleidleisiodd dros Brexit, a'r genhedlaeth iau fydd yn dioddef y canlyniadau:
Mae Hedd Wyn yn meddiannu – ein heddwch
yn nyddiau'r gwahanu,
â'r henwyr blin yn rhannu
i'r to iau gadeiriau du.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Awst 2017 - Emyr Lewis—Gwybodaeth
Emyr Lewis yw bardd Radio Cymru ar gyfer Mis Awst 2017.
Mwy o glipiau Blodau Mihangel Glas
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Cefnogi Alanis Morissette yng Nghaerdydd
Hyd: 05:43
-
Joseff Jenkins, y Swagman
Hyd: 06:16
-
Hel clecs!
Hyd: 08:42
-
Tîm pêl-droed merched Cymru'r 1970au
Hyd: 09:42