Main content

Ynyr Roberts - Swatia'n Dawel

Swatia'n dawel

Swatia鈥檔 dawel bach, fy nghyw, anghofia'r byd o'th gwmpas;
y gwynt sy'n chwipio blodau'r Garn, yn oeri tai y ddinas.

A thithau鈥檔 swatio'n dawel bach mae son am gau y ffiniau,
am gadw'r bobl ar-wahan a'r werin ar ei gliniau.

A thithau鈥檔 swatio'n dawel bach gwaiff dyn ei frawd yn elyn.
Pan dyfi'n ddyn, fy machgen tlws a brofi dithau鈥檙 gwenwyn?

A thithau鈥檔 swatio'n dawel bach mae鈥檔 daear ni yn diodda',
pan dyfi'n hyn a fydd hi'n waeth, yn gaeth i鈥檞 gwely angau?

A thithau鈥檔 swatio'n dawel bach rwy'n ymbil, rwy'n gobeithio
y byddi di a'th ffrindiau鈥檔 gryf, yn well na ni, yn llwyddo

i ddod a chariad n么l i'r byd i weld be sydd yn cyfri,
ond swatia heno'n dawel bach, fy machgen tlws, fy mabi.

Mae鈥檙 nos yn llawn cysgodion blin a minnau鈥檔 hawdd fy nychryn
ond pan ddaw鈥檛h w锚n i liwio鈥檙 wawr daw haul i ddrws fy mwthyn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Dan sylw yn...