Main content

Y Peiriant - Casia Wiliam

Bardd y mis, Casia Wiliam, yn talu teyrnged i Geraint Lloyd.

Y Peiriant

Daw’r peiriant hwn o Ledrod
mae e’n mynd ers amser maith,
ei injan fach sy’n troi a throi
heb golli dydd o waith.

Daw grwndi braf o’r injan
mae e’n hoff o sgwrsio glei!
Gall gynnal clonc â phawb a’i Nain
o Nefyn i Bompei!

Gan chwilio am y ciosgs
a dyfalu pwy yw’r llais,
aiff hwn a chi am daith non-stop,
mae’n tanio ar eich cais!

Newid gêr o gân i stori,
ew mae mae ganddo glutch control,
y shifft hwyr sy’n siwrna esmwyth,
cwtsiwch lan, eisteddwch nôl.

Nid yw’n methu nac yn blino
dan ei fonet mae’n ddi-lych
tra bo’r Cymry oll yn swatio
dal i droi mae’r peiriant gwych.

Mae’n vintage, mae e’n werthfawr
mae e’n drysor, Cymru fach,
rhowch chi iddo ddŵr ac olew
a bydd yma’n fyw ac iach

ym mhen degawd, ym mhen deugain,
bydd y peiriant gora’ ‘rioed
Dal i refio hyd y donfedd -
rwyt ti’n glasur, Geraint Lloyd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o