Main content
Dysgu'r Miliwn - Tim Hartley yn fachgen bach hynod o gyffrous
'Rhaid i'r byd addysg yng Nghymru efelychu yr hyn sy'n digwydd yng Ngwlad y Basg os am sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.'
Dyna fydd arbenigwyr addysg ac iaith yn ei ddweud mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru ddydd Mercher wrth i'r cyflwynydd Tim Hartley asesu pa mor bosib yw hi i'r llywodraeth gyrraedd y miliwn.
Aeth Tim Hartley, a oedd yn dod o gartref di-Gymraeg, i ysgol gynradd Gymraeg Sant Ffransis, ac yna i Rydfelen ac yn wahanol i nifer o'i ffrindiau cynnar mae e wedi byw ei fywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma fe, yn fachgen bach hynod o gyffrous, ac yn cwympo gan faint ei gyffro wrth ganu Ifan Bach a Minne!