Tachwedd gan Osian Rhys Jones
Os yw Tachwedd ar dy orwel yn ddu a thithau'n gwybod mai pylu pob awr na'r golau,
Os yw dy ben yn dy blu rhag gwynebu'r drefn ac os na ydi'r wawr yn ddigon agos i losgi鈥檙 cwmwl beichus gwelw,
Os gwinga dur y trac o dan sgrech y tren a theithir meddwl fel siwrne yn dod i stop,
Os oes crac yn hyn o gread cofia bod na glust yn gwrando o鈥檙 tywyllwch,
Mae lampau鈥檙 tai yn dy wahodd am baned i fod yn dyst nad oes dinas oer heb fynwes mis Mai i鈥檛h gynnal di,
Os yw鈥檙 mis du ar droed, daw鈥檙 Gwanwyn eto yn ei dro fel erioed.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2017 - Osian Rhys Jones—Gwybodaeth
Osian Rhys Jones yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2017.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Melinau gwynt M么n
Hyd: 10:01
-
Be sy'n gwneud cyflwynydd teledu da?
Hyd: 07:24
-
Sut mae darllen map?
Hyd: 12:48
-
Ystadegau difyr y Chwe Gwlad
Hyd: 10:21