Main content

Gwaed yr Iesu

Gwaed yr iesu

Mi sgwenni di gerdd
am fy mhasio ar y stryd
heb wybod be oedd fy enw byth

rhoi puntan, gan beidio
芒 chyffwrdd fy nwylo
yna adra. Sefyll yng ngwaelod dy ardd

ac edrych n么l ar wres y t欧
dy fyd yn gyflawn o dy flaen
a chredu dy fod wedi haeddu hyn

chei di byth ddarllen
y straeon fu鈥檔 fy mhen
na dallt be yrrodd fi yma, na gwybod chwaith

mor dena ydi鈥檙 flanced,
pa mor hawdd fydda llithro
yn gymaint ag y gwnest ti i un o鈥檙 rhai hyn

fe glywi am fy marw
mewn parc, a鈥檙 gwair yn socian
gan eira ddoe: troednodyn i benawdau鈥檙 dydd,

chei di ddim cyfle i glywed
y g芒n oedd gen i,
na sut ro鈥檔 i鈥檔 ei chanu pan oeddwn i鈥檔 blentyn

weli di mo鈥檙 gwagle
lle bues i: drws siop
fel bedd agored, gwag. Ond fy enw i

oedd Paul, ac ro鈥檔 i鈥檔 dod
o Sarn, Pen-y-bont
a dyw gwaed fy ngwythiennau ddim wedi methu eto.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau