Main content

Llion Pryderi Roberts - Y Flwyddyn Newydd

Y Flwyddyn Newydd

Mae’r flwyddyn yn ei maboed, hogia bach,
yn gowlaid o galennig yn ein breichia,
sglein ei bocha’n glasu’r bore bach
a botyma’i llygaid yn llydan gan ddyhead.

Syllwn i’w hwyneb croen llefrith, a gweld
dalen lân ei haddewidion yn wyn gwyryf;
pob heddiw yn ’fory heb ei dwtsiad,
mor iach ag ogla môr, mor frau â deilen.

Mae’r flwyddyn yn ei maboed, hogia bach,
er bod rhai’n dihuno’n benna mawr,
llygaid mân; yn brith gofio dawns a dathliad,
a blas hanner cusan ar eu gwynt.

Ond mi rydan ni i gyd yn diodda
’rôl gwledd y parti ffarwél – trimins, twrci, stop tap,
a hen wraig y llynedd yn chwarddiad o Sherry,
addewid ei cholur yn stremp hyd ei rhycha.

Ydy, mae’r flwyddyn yn ei maboed, hogia bach,
a dwylo’r fechan yn galw eto am ei magu;
mi gydiwn yn ei llaw, a dysgu iddi’r hen betha gora,
am hynny, mi fydd ’leni’n wahanol – oni fydd?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau