Main content

Cadw’n Heini

Llion Roberts, bardd mis Ionawr 2018 sy'n addo cadw'n heini...

Cadw’n Heini

Dewch i wrando hyn o ganig
rof yn hael, fel rhoi calennig;
am addewid a wnaf ’leni,
un adduned wna’i mo’i thorri.

Llawn wyf i o sbrowts a thwrci,
llawn yw’r stumog o siocledi,
llawn o reiat y mis olaf,
mae fy melt mor dynn amdanaf.

Yn y wardrob, mae trowsusau,
yn y wardrob mae fy nghrysau
ers blynyddoedd mewn rhyw hirlwm,
roe’nt yn ffitio’r bol ers talwm.

Daeth mis Ionawr, rhaid anghofio
am y cwrw a’r holl stwffio;
af i’r gampfa, ac ymorol
mod i’n myned yno’n ddyddiol.

Mynd a wnaf i gadw’n heini
er mwyn bod yn ail George Clooney;
talu am aelodaeth blwyddyn,
colli’r bol, cael gwasg fel llefnyn.

Cyrraedd gym, a gweld y mysls
(a’m rhai innau megis pimpls);
pawb mor dynn eu leotardiau,
bloneg sy’n fy nhracsiwt innau.

Trio’r beic, a chael fod seiclo’n
boenus odiaeth, gwaeth na rhwyfo;
gallwn geisio codi pwysau
ond mae’n ’nafu fy nghyhyrau.

Llusgo draw at beiriant loncian
er mwyn rhedeg yn fy unfan,
ond rôl munud ar ei elltydd
rydwy’ angen coesau newydd.

Dyma syniad, beth am nofio,
byddaf leden luniaidd yno,
ond mae’r clorin yn fy llosgi –
af i orwedd i’r jacwsi.

Yn y sba, rwy’n ffit am oriau
yn gwaredu’r calorïau,
wedi gadael caf fanana;
ond myn diain mae caffi’n fan’na.

Ionawr aeth, a daeth mis Chwefror,
gwag yw’r gym, a’r caff ar agor,
ond fe gadwaf i’r aelodaeth
rhag bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth.

Felly hoff wrandawyr ffyddlon
hyn o gyngor rof yr awrhon,
peidiwch addo mynd i’r gampfa . . .
hyd nes daw mis Ionawr nesa’.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o