Main content

Englynion Troad y Flwyddyn

Llyr Gwyn Lewis yn darllen ei englynion ar ddiwrnod olaf y flwyddyn.

Englynion ar droad y flwyddyn

Fe fu’n hen flwyddyn finiog, biwisaidd:
ei bysedd esgyrnog
brau, ei chelwyddau, a’i chlog
ddu o gynnen ddigeiniog.

Oedd hen o’i chrud, a’r ddannoedd arni hi,
rhyw wanhau drwy’r misoedd
crintach: llawn rhu corwyntoedd
fu’n blwyddyn. Llawn helbul oedd.

Tanau tyrau, a distryw ton, syberwynt
Siberiaidd o greulon
a’i gyr hi i’w bedd yn gron,
a llid, a mil colledion.

Yn Drymplyd, a rhy unplyg yr aeth hi
yn rhithiol: sŵn sarrug
yn cyhuddo drwy’r caddug,
a sŵn y plebs yn eu plyg.

Enbyd yw’n hoes, a’n byd ni yn fanach
bob yn funud, wrth i
etholiadau a thlodi
nithio awch ein hapathi;

ac o lôn a fyn gulhau, ninnau’n awr
drwy weiren y llwybrau
ddown i wneud addunedau
heb wir weld y gwnân’ barhau.

Ond dros glep y drws a’i glo, a nhwythau’r
coed yn noeth, gwn eto
wedi’r ŵyl, y daw, ar dro,
rwyg y barrug i buro:

rhoi rhyddid i bob gwreiddyn farw’n iawn,
a’i friw’n oer, ac wedyn
rhoi lled i ambell hedyn
godi o’i wâl, gyda hyn.

Ar ddiwedd oer, ddiawel eleni,
ail-luniwn y gorwel
a’r byd o hyd wedi hel
i’w hen dai, a’r lle’n dawel.

Rhew mân, a’r môr a’r mynydd yn aros
yn hir ac yn llonydd,
wedi’u hel gan hyd y dydd
yn gawlach mud i’w gilydd.

Yn llathraidd hyd ffyrdd llithrig awn, a’r rhew’n
yr awyr yn ffisig,
i gynnau tân rhag gwynt dig,
i hel hyn o galennig.

Gweld llanw gwelw golau y flwyddyn,
fel heddiw, ’n llawn maddau’n
lledaenu dros holl donnau
ein byw llwyd, cyn ymbellhau.

Gad hi lonydd; gad i leni orwedd
a marw lle mae hi,
a down at fyd o eni
sy’n newydd, newydd i ni.

A tyrd ti, cyn troi’r tywydd, y dadlaith
a’r dadlau tragywydd
i’r engan stond rhwng nos a dydd,
a chawn ni wreichion newydd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...