Cloddiau - Cerdd Bardd y Mis
Cloddiau
(i Edward a Gareth)
Rhyw faglu crwydro wnaem hyd Fedi brau
fel 鈥檛ai鈥檔 Orffennaf gwych, pan oeddem ni
yn sioncach ar ein traed, a鈥檙 l么n yn iau,
wrth redeg o鈥檙 Henefail rhag y ci.
Rwy鈥檔 cofio porfa wyrddach daear lawr
a phob mwyaren ddu yn grwn fel gem
wrth basio gwrych petalog tro T欧 Mawr,
cyn cyrraedd gwledd perllannau Anti Em.
Ac er nas daliwyd ni yn nhrem y llwynog,
mae trindod l么n yn chwilio鈥檙 dyddiau gwyn,
a sbecian cysgod byr y llwybrau heulog
sy鈥檔 sleifio rhwng blodeuged perthi鈥檙 Bryn
a鈥檙 anhreuliedig flas ar jam Whitehall,
ond gwn mai 鈥檓yrraeth fyddai mentro鈥檔 么l.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ionawr 2018 - Llion Pryderi Roberts—Gwybodaeth
Llion Pryderi Roberts yw Bardd Preswyl Radio Cymru ar gyfer Ionawr 2018.
Mwy o glipiau Iolo Williams yn cyflwyno
-
Twll yr Ozone
Hyd: 03:20
-
Cwestiwn Tudur i Griw Galwad Cynnar 27.01.18
Hyd: 06:10
Mwy o glipiau Galwad Cynnar
-
Llynnoedd Cymru
Hyd: 02:39
-
Y wennol
Hyd: 03:38