Main content

Cerdd Ifan Prys i Fois y Loris ar raglen Geraint Lloyd.

Croeso’n ôl i fois y loris
Gollyngwch frêc eich Iveco – a dewch
fesul dau mewn Volvo,
taranwch mewn tri Renault
ar frys hyd donfeddi’r fro.

A sgwn-i sawl lori Scania – a DAF
sydd yn dod fel fflamia?
Rhaid yw dod, mae radio da’n
galw holl loris Gwalia!

Mewn cwmwl llwch dychwelwch chi yn llon
â’ch llwyth i’r tonfeddi:
dewch nôl a pharcio’r lori
yn fan hyn, ein gorsaf ni.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

37 eiliad

Daw'r clip hwn o