Main content
'Y Gem Rygbi' gan Fardd y Mis Ifan Prys
Y G锚m Rygbi
Bnawn fory draw yn Nulun
a'r dorf yn gweiddi'n groch
fy mreuddwyd fyddai rhedeg
i'r cae yn gwisgo coch.
Mi floeddiwn i yr anthem
nes bron 芒 cholli'n llais
cyn dal y b锚l a rhedeg
a'i thirio i gael cais.
Mi fyddai gen i ddefod
cyn cicio'r b锚l mor gain
a sicrhau y triphwynt
o flaen y polion main.
Mi daclwn i'r Gwyddelod
a'u tynnu nhw i'r llawr
Mi safwn yn y lein-out
Yn dalsyth fatha cawr.
Mi ffugiwn i yn gyfrwys
Mi basiwn i yn chwim
Beth wir a allai'n rhwystro
rhag ennill - dwn i ddim.
Bnawn fory pan fydd Cymru'n
wynebu'r crysau gwyrdd
mi fyddai'n croesi mysedd
yn steddfod cylch yr Urdd.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2018 - Ifan Prys—Gwybodaeth
Ifan Prys yw Bardd Preswyl Radio Cymru ar gyfer Chwefror 2018.