Main content
Cerdd i'r Ffermwyr Ifanc gan Beryl Griffiths - Bardd y Mis
Y Ffermwyr Ifanc 14/03/18
Wrth wneud eich cyfrifiadau
A cheisio鈥檙 arbediadau,
Wel peidiwch wir 芒 rhoi eich coel
Ar ddim ond moel ffigyrau.
Ni welwch ar eich taenlen
Y rhai sydd wrthi鈥檔 llawen
Yn rhoi o鈥檜 hamser yn ddi-d芒l
I鈥檙 ieuenctid ga鈥檒 gwell bargen.
Y mae eich punnoedd crintach
Yn tyfu yn helaethach
Ac am bob punt a roddwch chi
Mae鈥檙 gwerth i ni鈥檔 ehangach.
Ac os oes arnoch eisiau
Gweld gwerth eich cyfraniadau
Edrychwch chi pwy sydd yn dal
I gynnal cymunedau.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mawrth 2018 - Beryl Griffiths—Gwybodaeth
Beryl Griffiths yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mawrth 2018..