Gwennan Evans, Bardd y Mis
Ar achlysur rhaglen gyntaf Ifan
Croeso Ifan
Pwy ddaw bob pnawn i’n cadw’n ddiddan?
Pwy sy’n gwneud i deirawr hedfan?
Pwy sy’n canu dros pob cytgan?
Ifan.
Pwy sy’n dod i’r gwaith heb gonan?
Pwy sy’n byw ynghanol unman?
Pwy sy’n cwrso Heti’n cropian?
Ifan.
Pwy sy’n ffenso heb ddim ffwdan?
Pwy all gneifio llond y gorlan
fel rhyw grwt hanner ei oedran?
Ifan.
Pwy sy’n llawen ar bob llwyfan?
Pwy sy’n gwneud Terwyn duchan?
Pwy mae Dai a Sian yn ofan?
Ifan.
Pwy yw’r tarw mewn crys tartan?
Pwy sy’n gwneud i ferched fewian?
Pwy yw pin-yp pob hen wreigan?
Ifan.
Pwy sy’n haeddu pum cant cusan?
Pwy mewn Sioe sy’n haeddu cwpan?
Pwy sy’n gwneud i gathod disian?
Ifan.
Pwy sy’n sgorio gôl fel taran?
Pwy sy’n arafu yn Llanfarian?
Pwy sy’n sbort mewn toriad trydan?
Ifan.
Pwy sy’n iodlo yn ei ydlan?
Pwy sy’n dawnsio fel tylluan?
Pwy sy’n Gardi gyda’i arian?
Ifan
 
Pwy sy’n fodlon iawn wrth glebran
â gwrandawyr Cymru gyfan?
Pwy sy’n g’nesach na dwy hosan?
Ifan.
Yn y tÅ·, gwell cloc yn tician,
yn y car, gwell sŵn yr injan
na dy raglen…. Dim ond jocan,
ydw i Ifan.
Pwy sy’n chware Dafydd Iwan
Yws Gwynedd, Sobin, Cadno, Calan
a Swnami a Gwibdaith Henfran?
Ifan.
O bois bach, wy’n dechre stryglan.
Rhaid troi’n gog i fi gael gorffan…
Pob hwyl i ti ar dy raglan.
Ifan.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ebrill 2018 - Gwennan Evans—Gwybodaeth
Gwennan Evans yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Ebrill 2018.
Mwy o glipiau Ifan Jones Evans
-
Pwy Sy'n Perthyn - Ava Zeta-Jones
Hyd: 04:32
-
Ela Mai - dyfarnu reslo yn 16 oed
Hyd: 13:42
-
Hyfforddwr Gyrru Hynaf Cymru?
Hyd: 15:21