Cerdd gan Rhys Dafis
Clwb Peldroed Caerdydd (yr Adar Gleision) yn cael eu dyrchafu i gynghrair y Brifadran, tra bod Clwb Peldroed Abertawe (yr Elyrch) ar fin disgyn oddi yno i gynghrair y Bencampwriaeth.
Gwyn eu byd yr adar gleision,
Hwy g芒nt fynd i鈥檙 fan a fynnon;
Ar 么l cyfnod dros y gorwel
Hedant eto鈥檔 chwim ac uchel.
Testun ein hedmygedd ydynt;
Llachar las, a choch o danynt,
Balch eu c芒n, a balch eu trydar,
Balch eu lle ymysg yr adar.
Gwyn fu byd yr adar gwynion,
Hwy g芒nt fynd o鈥檙 fan a fynnon;
Mwyach maent yn nofio鈥檔 dawel
Tua鈥檙 gwyll 芒鈥檜 pennau鈥檔 isel.
Er ymddangos yn osgeiddig,
Bu eu coesau鈥檔 pedlo鈥檔 ffrantig;
Yn y diwedd, mae y cerrynt
Wrth y lan yn ormod iddynt.
Ond 鈥榤hen dim, ar 么l cymhennu,
D么nt yn 么l 芒鈥檜 plu鈥檔 serennu;
Gwyn ein byd yn gwylio wedyn
Mewn un man y ddau aderyn.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2018 - Rhys Dafis—Gwybodaeth
Rhys Dafis yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mai 2018.
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03