Main content

Baled y Gyrrwr Anghofus

Baled y Gyrrwr Anghofus gan Lyn Ebenezer - Bardd y Mis

BALED Y GYRRWR ANGHOFUS
Closiwch yn nes, gyfeillion
I wrando arnai’r awrhon
Yn adrodd hanes un na aeth
Yn gaeth i fân ofynion.

Wylo a wnawn ein gwala
Dros Tomos Hafod-fila
A aeth drwy gysgod oer y glyn
‘Rôl boddi’n Llyn Y Bala.

Yn bedwar ugain union,
Cyhoeddi wnaeth y gwron
Y mynnai ddysgu gyrru car
Hyd briffyrdd tar anunion.

Fe brynodd felly Ffordyn
Yn rhad wrth rhyw hen lordyn;
Yr oll â’i cadwai rhag y saint
Oedd cot o baent a chordyn.

‘Rhên Morgan Lloyd y Sgweier
Oedd yr egspiriensd dreifer,
Âi gyda Tomos bob dydd Iau,
Gorchwyl a wnâi am ffeifer.

Mewn car fel ar gefn tractor,
Er gwylio pob Fferm Ffactor,
Un gwael oedd Tomos, ie wir,
Am wasgu’r indicêtor.

Ei esgus gwan dros beidio
Cyflawni’r cyfryw osgo
Oedd, ‘Musnes i yw ble dwi’n mynd,
Fy ffrind, os na chi’n meindio.’

Perswadiwyd ef gan Morgan
Y dylai newid anian
Gan gofio gwasgu’r botwm troi
Yn glir, yn gloi a buan.

Ar ddydd y prawf, sef drennydd
I Å´yl yr Hen Ddihenydd,
Aeth Tomos gyda Morgan Lloyd
I’w oed yn Sir Feirionnydd.

Fe deimlai’n ddigon smala
O gyrraedd tref Y Bala,
Ond am y testyr yn sedd Moc,
Roedd cnoc bach yn ei fola.

Fe aeth y prawf yn syndod,
A Tomos gadd ollyngdod,
Ond o fewn dim i ben y daith
Fe aeth yn annibendod.

Gan iddo lwyr anghofio
Y dylai indicêto,
Fe hitiwyd Tomos o’r tu ôl
Gan Focsol Sais o’r Bermo.

Neidiodd y testyr allan -
Un chwimwth oedd y bachan -
Hedfanodd Tomos drwy’r sgrîn wynt,
A hynny’n gynt na Batman.

Mae’r hanes trist i’w weled
Yn gymen ar ffurf baled
Ar wyneb marmor carreg fedd
Yn hyfryd hedd Uwchaled:

Yma y ceir gweddillion
Un aeth i’w fedd yn brydlon,
Gwasgodd yn gywir glytsh a brêc,
Ond un mistêc fu’n ddigon.

Tomos, yn ddianghenraid
Foddodd ymhlith y gwyniaid;
Ond boed ei enaid heddiw’n wych
A sych rhwng glân seraffiaid.

Rhybuddiaf felly bobun
Sy’n droed-trwm ar ei sbardun,
Gochelwch oll rhag dioddef lôs
Tomos yr anghredadun.

Arwr di-arddangosiad
Aeth tua’i atgyfodiad
Hyd lôn un-ffordd heb arwydd STOP
Na’r un sbîd cop na throad.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o