Main content

Iwan Rhys yw bardd preswyl mis Gorffennaf.

Dyma gerdd am wyliau Iwan ar gwrs coginio yn Sevilla, Sbaen.

Dyma gerdd am wyliau Iwan ar gwrs coginio yn Sevilla, Sbaen

Gwersi Coginio Sevilla.

Gwisgo piner am fy nghanol,
Ysgwyd llaw y cogydd bach.
Cymryd golwg ar y cigoedd,
Llysiau lliwgar lond y sach
A pherlysiau dirifedi.
Cymryd gwydr bach o sheri.

Cydio yn y gyllell fwyaf,
Torri'r persli'n f芒n fel llwch.
Iro'r tin ag olew golau.
Stwffio afal i geg hwch.
Sgrwbio croen y tato brafa.
Joio'r swigod yn y Cava.

Halltu a ffiledu'r pysgod,
Rhoi'r octapws mewn bath o dd诺r
I goginio'n araf, araf.
Toddi menyn, adio ffl诺r.
Cymryd hoe bach rhwng dwy dasg
I flasu gwin o Wlad y Basg.

Pwyso reis a mesur moron,
Toddi siocled yn y pan,
Malu saffron yn yr halen.
Mae fy nghoesau'n teimlo'n wan.
Hwylio'r malwod fel armada.
Agor potel o Rioja.

Ffrio winwns, garlleg, tshilis,
A rhoi esgyrn yn y stoc,
Y mae'r lle yn dechrau troelli.
Sgwn i i ble'r aeth y wok?
Rhoi fy mys mewn saws a'i lio.
Gwydr mawr o Tempranillo.

Trio, ar 么l hedfan gartre,
Cofio'r hyn a ddysgais i
Er mwyn ail-greu yr holl gampweithiau.
Ond caf drafferth, wir i chi.
Ac er y gwersi, er y gost,
I swper caf ffa pob ar dost.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau