Main content

Podlediad Gorffennaf 9fed - 14eg

Mynydd Parys, Huw Brassington, Stifyn Parri, Evita, Rhian Cadwaladr a threfnu priodasau.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

17 o funudau

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Gorffennaf 9fed - 14eg

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf.


Rhaglen Dei Tomos - Mynydd Parys

Ìý

…Mynydd Parys. Wel, dydy o ddim yn fynydd go iawn, a dydy o ddim yn Ffrainc chwaith. Wedi dweud hynny, yn ei ddydd, Mynydd Parys, ger Amlwch ar Ynys Môn, oedd gwaith copr pwysica'r byd. Ar raglen Dei Tomos wythnos yma, buodd Richard Williams o Langefni yn sôn am rai o'r bobl oedd yn berchen ar y gwaith dros y blynyddoedd...



sylweddoli – to realise
cael cyfoeth o’r tir – to get wealth from the land
amlwg – obvious
pobl ddŵad – incomers
Cymry glân gloyw - Welsh through and through
crud y chwyldro diwydiannol - the cradle of the Industrial Revolution
waeth i chi ddweud - you might as well say
gwybodaeth arbenigol - expert knowledge
ymchwilio – researching
diwrnod tyngedfennol - a fateful day


Rhaglen Aled Hughes - Huw Brassington

Mae rhai'n dweud mai Ras Cefn y Ddraig Berghaus yw'r ras anodda yn y byd. Mae'r ras yn para pum diwrnod, ac mae'n rhaid rhedeg o Gonwy yn y Gogledd i Landeilo yn y De, 315 cilomedr. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhedeg hyd at 16 awr y dydd, ac yn dringo ddwywaith uchder Everest yn ystod yr wythnos. Un gymerodd ran yn y ras oedd y rhedwr profiadol Huw Brassington. Dyma fo'n dweud wrth Aled Hughes pa mor anodd oedd y ras iddo fo...

uwchlaw – above
trôns glan – clean pants
egni – energy
gwthio dy gorff i’r eitha – push your body to its limit
manteision – advantages
ffos – ditch
pwysau meddyliol – mental pressure
aberthu cymaint – to sacrifice so much
ffrwtian – spluttering
berwi – boiling

Ìý

Teulu – Stifyn Parri


Amser cinio dydd Llun roedd yna raglen ddogfen yn sôn am sut mae'r Cymry'n tueddu i gyfarfod efo'i gilydd.Ìý Un o'r straeon diddorol glywon ni oedd stori yr actor Stifyn Parri a dyma fo’n rhoi hanes sut gwnaeth o gyfarfod ei bartner, yn ei ffordd arbennig ei hun...


hunllef – nightmare
rhaglen ddogfen – documentary
tueddu i – tend to
cyn i mi wlychu fy hun - before I wet myself
hyder – confidence
be ddiawl – what the heck?
colur – make-up
ar ôl ychydig – after a while

Stiwdio – Evita

Un o'r sioeau mwya poblogaidd yn y West End oedd Evita, oedd yn seiliedig ar hanes Evita Peron, un o'r merched pwysica yn hanes Yr Ariannin. Cafodd y sioe ei pherfformio gynta 40 o flynyddoedd yn ôl yn 1978. Sioe gan y bartneriaeth enwog Andrew Lloyd Webber a Tim Rice oedd hon wrth gwrs, ac ar Stiwdio wythnos diwetha mi glywon ni Steffan Rhys Hughes, yn rhoi ychydig o hanes y sioe i ni...

Ìý

Yr Ariannin – Argentina
ei phwysigrwydd – her importance
wedi gwirioni efo – was bowled over by
fel testun – as a subject
yn ddiweddarach – later on
cyfansoddi – to compose
arweineddys wleidyddol – political leader (female)
llywydd – president
llu o deithiau rhyngwladol - a great many international tours
i goroni’r cyfan – to cap it all

Bore Cothi – Rhian Cadwaladr

Mae ail nofel Rhian Cadwaladr, Môr a Mynydd, newydd gael ei chyhoeddi. Be yn union ydy thema'r nofel? Dyma Rhian yn esbonio wrth Shan Cothi...

Ìý

bodoli – to exist
ers talwm – in the past
croesi’r Iwerydd – to cross the Atlantic
yn ddiweddar – recently
Trefnydd Priodasau – Wedding Organiser
poblogaidd – popular
dyweddïo – to become engaged
golygu – to mean
magwraeth – upbringing
mwynhau yn arw – really enjoying

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad