Elfed, Y Prif Weithredwr
rhoi'r awch i boeri gwreichion
a byw yr iaith dan ein bron,
a rhoi, fel y gwna Pen'groes,
orau ran o'th hir einioes:
rhoi'r llwyfan i'r gair llafar,
i gwrw a gwg y gair gw芒r,
rhoi i'r Orsedd ei hedd hi,
rhoi heniaith, a'i choroni:
rhoi i yfwyr eu prifwyl,
rhoi i deulu Gymru'i gwyl,
a rhoi mwy i ddrama hon
y gwyliau sy'n dy galon:
rhoi i hen w锚r brin o arian
lun o gerdd gynnal hen g芒n,
rhoi i ateb y brotest,
rhoi bri a'n noddi a wnest:
rhoi ynni dy arweiniad
a rhoi'r wledd i dir y wlad,
rhoi'n unfarn ar ein henfaes,
a rhoi i mewn i agor Maes:
ac mor gymraeg y rhegi,
rhoi yn ein hiaith dy waith di,
a rhoi, fel y gwna Pen'groes,
orau ran o'th hir einioes.
Karen Owen
10.8.18
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd—Eisteddfod Genedlaethol 2018
Rhaglenni Radio Cymru o Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd.
Mwy o glipiau Eisteddfod Genedlaethol 2018
-
"Gig gorau'r Steddfod"
Hyd: 02:36
-
Osian, Meilyr a Branwen
Hyd: 03:34
-
Canu yn Eisteddfod Machynlleth 1937
Hyd: 00:43
-
Huw Stephens: Araith Llywydd yr 糯yl
Hyd: 15:28