Main content

Radio'r hwyr

Rhannu'i phader wna'r ddinas arferol

yn eco triw mewn cwter, ar heol

a rhwng y muriau.

Yng nghamau hwyrol,

olaf heddiw, mae 'na adlef feddwol

ddi-ras, a'r dydd sydd ar 么l, gan hynny'n

rhyw ddiweddu yn gerydd o waddol,

ond mae radio.

Caf heno gwmpeini

rhywrai anwel sy'n gudd mewn sianeli

a'u dweud llonydd, lle caewyd y llenni.

Nos o guddio'n y miwsig, a gweddi

o sain sy'n fy nhywys i o'r blerwch.

Tiwniaf i'w heddwch.

Cysur tonfeddi.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

45 eiliad