Elinor Wyn Reynolds yw bardd preswyl mis Medi.
’Nôl i’r ysgol
‘Dere ’rhen foi, mas o’r gwely ’na’n glou
bore bia hi, hwyr glas i ti godi.’
‘O, Mam, wy’n glwc, yn brin iawn o blwc,
wy’n dost a ma ’mola i’n corddi.’
‘Ond, mae’n ddechre blwyddyn ysgol, grwt,
bydd gan bawb sglein ar sgidie newydd.’
‘Sa i ishe, Mam, wy’n teimlo’n reit wan
ac wy’n becso’n fawr am y tywydd.’
‘Gad y ca’ sgwâr, trodd nos yn ddydd ers meityn
a ma gwersi i’w dysgu, y twpsyn.’
‘Sdim whant arna i, wir, ma’r gwin ’di troi’n sur
wy’n teimlo mor wan â gwybedyn.’
‘Wel, gwed beth sy mor ofnadw o wael
am yr ysgol, beth yw sail dy achos?’
‘Sneb yn lico fi, Mam, maen nhw’n gas, dyna pam,
yr athrawon, heb sôn am y plantos.’
‘Wel, mae’n rhaid i ti fynd, mae’n siŵr y gwnei ffrind,
a sdim iws i ti bwdu a stranco.’
‘Pam?’ medde fe. ‘Achos,’ medde hi,
‘Mai ti yw y blwmin prifathro.’
Elinor Wyn Reynolds
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Medi 2018 - Elinor Wyn Reynolds—Gwybodaeth
Elinor Wyn Reynolds yw bardd Radio Cymru ar gyfer Medi 2018.
Mwy o glipiau Bore Cothi
-
Iestyn Garlick
Hyd: 29:10
-
John ac Alun
Hyd: 26:05