Mihangel Morgan - Bardd y Mis - Hydref 2018
Nos Galan Gaeaf (sestina gyda phroest)
Cura鈥檙 plant bach wrth y drws.
Glyn yn flaidd a Ffebi鈥檔 wrach.
Direidus fwganod y nos.
Sibrwd a chwerthin yn y d眉wch.
Eu hwyliau a鈥檜 hofn sy鈥檔 creu鈥檙 naws.
Colur gwyn a du a choch.
Llieiniau gwyn a gwaed ffug, coch.
Yn hel loshin o ddrws i ddrws.
Hwyl a dychryn yn rhan o鈥檙 naws.
Fampir yw Twm brawd Ffebi鈥檙 wrach.
Chwerthin a sibrwd yn y d眉wch.
Pwmpen fawr yn goleuo鈥檙 nos.
Masg arswydus oren y nos.
Lliwiau braw; gwyrdd, porffor, coch.
Lynfan鈥檔 gysgod yn y d眉wch
Wrth i Miss Jones ateb y drws
A hithau wedi鈥檌 gwisgo鈥檔 wrach.
Hen rai hefyd yn licio鈥檙 naws.
Noswaith draddodiadol ei naws.
Plant a meirw鈥檔 crwydro鈥檙 nos,
Fampir, ystlum, sgerbwd a gwrach.
Glyn y bleidd-ddyn a鈥檌 safn yn goch.
Dyma鈥檙 criw eto wrth y drws,
Yn sefyll yno yn y d眉wch.
Criw chwareus yn y d眉wch.
Fel鈥檔a mae, yn gymysg ei naws,
Y gwyll yn chwennych golau鈥檙 drws,
Ffin rhwng gwawl a mwrllwch y nos.
Difyrrwch gwyn, llawenydd coch,
Loshin melys ar wefus gwrach.
Nawr mae blinder yn drech na gwrach
Dan flanced hudol y d眉wch.
Llygaid plant i gyd yn goch
A phob un yng ngafael rhyw naws
Gysglyd a hwyl ac ofn y nos
Yn dirwyn i ben wrth y drws.
Wybren goch hiraethus ei naws,
Breuddwyd gwrach mewn si么l o dd眉wch
Gefn trymedd nos a鈥檙 gaeaf wrth y drws.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Ifan Jones Evans
-
Pwy Sy'n Perthyn - Ava Zeta-Jones
Hyd: 04:32
-
Ela Mai - dyfarnu reslo yn 16 oed
Hyd: 13:42
-
Hyfforddwr Gyrru Hynaf Cymru?
Hyd: 15:21