Main content
Myfyrdod Millennial - Beth Celyn, Bardd y Mis
Myfyrdod Millennial
Sut mae mesur y blynyddoedd?
Yn y nosweithiau nad ydan ni鈥檔 cofio
wrth i ni rolio, yfed a dawnsio
鈥榥es bod y wawr yn ymestyn
dros y gorwel,
a鈥檙 nos yn moesymgrymu
i ddiwrnod newydd?
Neu ym maint ein camau -
llewyrch ein llwyddiannau
wrth i ni redeg yn gynt a chynt,
yn uwch ac yn uwch,
heb wybod i ble 鈥榙a ni鈥檔 mynd
na pham mor hir y medrwn ni ddal ati?
鈥楧a ni gyd isio pefrio,
ond hawdd anghofio
ein bod ni oll yn llwch
yn nwylo serog y bydysawd.
Sut i gadw鈥檙 t芒n yn fyw sy鈥檔 bwysig,
heb losgi ein hunain, nac eraill,
ac i ddisgleirio hyd yn oed pan mae鈥檙 fflam
wedi pylu, a鈥檔 disgleirdeb
yn ddim ond atgof
yn awyr y nos,
yn moesymgrymu
i ddyddiau newydd.
Beth Celyn
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2018 - Beth Celyn—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2018 yw Beth Celyn.