Main content

Ar y trothwy (dechrau newydd)

Hudwn dân o’r lludw
a chân o ddryswch cur pen
a gwylanod y bore hwn;
llamwn erchwyn y gwely
fel dyn newydd atgyfodi;
sathrwn sêr y llynedd
yn sgyrion gwydrau chwâl
a rhuthro i fin y môr
i dderbyn nodd y gwynt
a gwaed newydd yr heli.
Aeth blwyddyn arall i’r stafell gefn:
clustfeiniwn ar y trothwy
uwch ymchwydd byd
sy’n gwybod bod y rhod
yn troi a'r oriau’n hirhau;
gwrandawn am atsain ola’r
flwyddyn nas cawn yn ôl
a’r lleisiau nas clywn byth eto.
Heriwn y mudandod
sy’n aros hwnt i’r miri
drwy ymddiofrydu y llosgwn
yn llacharach byth eleni.

Morgan Owen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

39 eiliad