Main content

Nid eich map chi oedd fy map innau

Nid eich map chi oedd fy map innau

Pa fap oedd gennym ond ffin
a鈥檔 gwasgodd rhwng traethau llaid
a chregyn gweigion
ac, yn bell ym mherfedd gwlad,
ehangder ein hanwybod,
argoel ein diddymu
a nes芒i bob dydd
ar ddalennau paranoia:
enwant ein diflannu mewn iaith
ry hawdd i鈥檞 deall.
Euthum i leoedd gwag ein dychymyg,
i鈥檙 tir llosg a鈥檙 rhedyn a鈥檙 ffermydd briw
fel herwr a fwriwyd i鈥檙 nos
am gwestiynu ofn y llwyth.

Canf没m ym mawdd y tir
yr hyn nad oedd eich
map chi yn ei ganiat谩u i mi:
agennau a鈥檓 hagorodd, nentydd
a鈥檓 gwaedodd o鈥檓 bustl a鈥檓 dig.
Lle鈥檙 ydych chi鈥檔 palu eich beddi
dros baneidiau di-ben-draw
a鈥檙 un hen wynebau blin,
creaf fy myd o鈥檙 newydd,
nid o falurion gwrthdrawiadau
ond o鈥檙 ymylon a鈥檓 creodd innau.

Morgan Owen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad