Main content

CFfI - Cerdd gan Megan Lewis - Bardd y Mis

CFfI

Mae'n nosi,
mae'n bryd ei throi hi
ar ras, ar ruthr
i'r neuadd fach
sy'n prysur lenwi.

Yn y drws, gwelaf gysgod
hogen fach
yn eiddil wylio
yn eiddil wrando
ar y criw
a'u straeon gwallgo'

am gaeau gwlyb y Rali
peintiau hwyr y parti
holl firi'r caru, a'r cystadlu.

Fe'i gwyliaf,
yn hanner gwenu
yn hanner cochi
yn union fel gwnes innau
ar drothwy'r drws.

Ond mae rhywbeth yn ei denu

ac er bo'r nos yn araf nosi
mae un arall yn mentro arni.

Megan Lewis

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud