Reseit Byns y Grôg Mair Jones, papur Y Ddolen
Cynhwysion.......
1 pwys o fflwr plaen cryf
2 owns o fenyn
2 owns o siwgr
2 owns o gyrens
½ peint o laeth a dwr wedi cynhesu
1 wy
1 owns o furum ffres neu pecyn o furum sych
Gwres y ffwrn 200 gradd neu nwy 6
Uro tin
I wneud y sglein.......
2 llwy o ddwr
2 llwy fwrdd o siwgwr
Y Groes........
2 llwy fwrdd o flawd
1 llwy fwrdd o olew ac ychydig o ddwr
Dull........
Rhowch y cynhwysion sych i gyd mewn powlen a’u cymysgu yn dda.
Curwch yr wy.
Ychwanegwch ychydig o laeth cynnes a’i arllwys i’r folwen.
Gwnewch yn does gyda’r llaeth a’r dwr.
Gadewch i godi am awr a lliain drosto.
Rhannwch yn beli a’u rhoi ar y tin a gadewch iddynt godi eto am hanner awr.
Yn y cyfamser cymysgwch gynhwysion y groes.
Rhowch y cynhwysion mewn bag ac yna peipio siap croes dros y byns.
Rhowch yn y ffwrn am 20 munud nes yn barod.
Berwch y siwgr a’r dwr mewn sospan a wedyn defnyddiowch frwsh i’w roi ar y byns i roi sglein.