Main content

Bardd Mis Mai - Iwan Huws

Iwan Huws, o'r band Cowbois Rhos Botwnnog yw bardd mis Mai. Yma mae'n darllen ei gerdd 'Pan Ddaeth Yr Haf Ataf'. Ysbrydoliaeth y gerdd oedd symud ardal gyda'i deulu bach.

Pan ddaeth yr haf ataf

A phan ddaeth yr haf ataf
i ddiosg ei dillad,
ei dail mân
yn danau bach o flaen y gaeaf,
yn denau,
wedi rhoi gormod
a finnau ddim yn gwybod
beth i’w gynnig,

dyma fi’n deud,
‘Dwi wedi plygu’r ardd i mewn i’r bin
a’i gadael ar y pafin,

efo’r holl fân bethau
nad o’n i’n disgwyl fyddai’n tyfu
trwy’r wal gefn, tra ’mod i yn y tŷ
yn chwarae babi.

A’r pethau o’r parciau –
mi wnes i adael y rheini
ar loriau, dan wadnau, ar feinciau,
heb wybod tan rŵan
’mod i’n gadael rhywbeth.’

Rhywbeth dwi’n fodlon ei adael,
yn aflonydd,
yn dal i rygnu hyd y strydoedd,
yn dal i geisio cwrdd ar hap mewn caffis
a chyfleusterau babis,
heb ddeall eto
’mod i wedi mynd.

Ella y dylwn i fod wedi deud –
neu adael nodyn –
rhywbeth mwy cadarn na gardd mewn bin.

Rhyw sioe, ella,
..a phawb yn rhewi a syllu:
wynebau’n wyn
a’u genau’n disgyn wrth ein gwylio
yn mynd cyn Medi.
Tân gwyllt cynta’r tymor,
tri’n mynd tua’r môr.

Agorwch y gwin,
byddwch yn gas i’r sawl sy’n gweini
am nad ydyn nhw’n deall
’mod i wedi gadael rhywbeth

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud