Iwan Huws - Defodau
Mae ’na rywbeth wedi newid
ond alla i ddim deud be,
dwi ’di troi’n rhywbeth newydd,
dwi ’di symud o fy lle.
Mae’r un oedd ar ei gythlwng
ac yn gollwng ei flawd lli
wedi ffoi, cyn i mi droi,
o symud atat ti.
A dwi’n synnu sut mae’n digwydd –
dim ond cwrdd, a dyna ni –
ond ti’n dewis dilyn llwybr
wrth ymroi yn llwyr i’r lli.
Dwi ’di dysgu gen ti, cariad,
ac yn dysgu mwy a mwy,
dwi ’di clymu rhuban ar y gwynt,
Duw a ŵyr i bwy;
ond dwi’n disgwyl y bydda i’n deall
pob un wefr sy’n symud trwy
ein llinynnau ni, y rheina sy
yn canu trwy bob clwy.
A dwi’n teimlo’r holl ddefodau
oedd yn segur am rhy hir,
’mond am ennyd fach,
yn symud eto trwydda i.
A dwi’n teimlo’r peth yn digwydd –
y cwrdd, a dyna ni –
ti’n dewis dilyn llwybr
wrth ymroi yn llwyr i’r lli.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2019 - Iwan Huws—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymrua r gyfer mis Mai 2019 yw Iwan Huws.
Mwy o glipiau Ifan Jones Evans
-
Pwy Sy'n Perthyn - Ava Zeta-Jones
Hyd: 04:32
-
Ela Mai - dyfarnu reslo yn 16 oed
Hyd: 13:42
-
Hyfforddwr Gyrru Hynaf Cymru?
Hyd: 15:21