Main content

Papur Wal - cerdd gan Fardd y Mis - Iwan Huws

Papur wal

’Nathon ni symud tŷ,
y tri ohonom ni,
a chyfaddawdu
o ran beth i’w gadw
o dy bethau di,
fy mhethau i,
a phethau’r babi.

Ac wedyn, eu gosod yn daclus,
hyd y gallwn ni wneud hynny,
mewn lle lle’r oedd eraill wedi bod cyn ni.

Ac yn y man lle fydda i’n gwneud paned,
mae ’na rywun arall yn ei hyfed,
yn sefyll yno hefyd,
yn fy nirnad i ar ben eu byd,
gan deimlo, yn eu stafell wely,
dy luniau di,
a lle’r oedd eu tŵls yn hongian o’r to,
rŵan – fy rhai i yno,
a Now’n gosod ei deganau,
yma, ac acw, hyd y lloriau,
yn annwyl ac yn flêr,
a dan draed hyd sawl llinell amser.

Tybed os oedden nhw’n addasu’u cam
wrth fynd i’r gegin, neu’n gwasgu
trwy’r cyntedd i osgoi’r pram?

Tybed os ydw i’n gwneud rŵan?
Yn gwyro ’nghwrs, neu’n sbïo’n flin
i gyfeiriad llun a fydd uwch y lle tân.

Achos mae haenau paent a phapur wal
yn parhau am byth, heb bylu,
hyd yn oed o’u rhwygo lawr,
eu darnio a’u malu,
mae nhw’n aros, er hynny,
fel y dwylo a fu wrthi’n ddiwyd
yn gosod eu bywydau ar y byd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o