Main content

"Creu M锚l" gan Aneirin Karadoc

Creu M锚l
(i ddathlu Gouel Broadel ar Brezhoneg, 2019, sef G诺yl Genedlaethol y Llydaweg
sydd eleni wedi gefeillio gyda Thafwyl.)

Bu rhai ar ras, fel gwenyn, mor brysur
yn hel paill da i helpu Llydawyr
i heidio yn siaradwyr a chreu si
ac yn ei sain hi cawn godi gwydyr.

Cawn barhau i鈥檞 siarad, cyn brysured,
fesul blodyn bob blwyddyn heb ludded
am mai g诺yl lle mae i鈥檞 gweled fan hyn,
yn f锚l ein gwenyn, yw haf Langoned.

Gouel Broadel yn baradwys, ynys
bellennig i orffwys
rhag y dydd a鈥檌 Ffrang-reg dwys.

Gouel Broadel rhag i bryder fwyta
ein haf eto鈥檔 ganser,
yn don amheuon drwy鈥檙 m锚r.

Gouel Broadel dros barhad neithdar hen
iaith dra hardd yr henwlad
a Diwan i鈥檞 blodeuad.

Nid yw Gouel Broadel yn gweld breuder,
nid lle di-hid, ond Llydaw o hyder
rhag trengi鈥檙 si, hi yw鈥檙 her, wenyn gwlad:
o greu m锚l, wastad, fe geir melyster.

Aneirin Karadog

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau Ffion Dafis