Main content

Ar ddiwrnod olaf blwyddyn ysgol arall

Mae blwyddyn arall 'di gwibio heibio,
a dillad a sgidia y plantos 'di shrincio.
Pawb yn ffarwelio am hoe fach haeddiannol:
gyda chwtsh neu bawen lawen, am adra o'r ysgol.
Athrawon, ddisgyblion, mae hon i chi,
am weithio mor galed am fsoedd di-ri -
'da chi gyd yn s锚r, bob un wan jac,
felly ffich i'r wisg ysgol a chodwch eich pac!
Mae Steddfod Llanrwst, Sioe M么n, a lan-m么r
yn galw amdanoch, da chi'n gwbod y sg么r:
joiwch, ymlaciwch, bwytwch, trochwch
yn heulwen fs Awst a llawen y byddwch.
Ac er fod pob rhiant pryderus yn gwbod
fod chwech wsos yn hir heb strwythur i'r diwrnod,
bydd mis Medi ar ein trothwy cyn i ni droi,
felly bloeddiwn HWR脢 fod drws ysgol yn cloi!

Manon Awst

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

59 eiliad

Dan sylw yn...