Main content

Yr Hoeden

Robat Powel yn cyflwyno cerdd ar gyfer Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

‘Yr Hoeden’
(Cyflwynedig i bawb sy’n ceisio dysgu Cymraeg)

 llam yn ei llais, trodd ataf un tro
Yng nghiliau rhyw dafarn, a brolio ei bro ;
Dior oedd ei hacen, Chanel oedd ei gair,
Pan aeth, cododd hiraeth fel gwawn yn y gwair,
A gwyddwn na allwn ymlonni heb hon,
Na byw heb ei nabod a’i chloi dan fy mron.

Dilynais yr hoeden o’r Rhondda i’r Rhos,
Ac yfed o’i cherddi yn nwyster y nos ;
Fe lanwodd fy mreuddwyd, fe nerthodd fy nwyd,
Rhoi lliw ar y llechwedd a blas ar fy mwyd ;
Ond corwynt yw’n cariad a’i dân i ni’n dau,
Serch Burton a Taylor, gorawen a gwae!

Rwy’n drachtio a drysu, yn mynd gyda’r teid
Oherwydd, fy hoeden, be’ ddiawl wyt ti’n ddweud?
‘Ty’d yma, ’rhen hogyn ..’, ‘Wel dere, boi bach ..’
Am awr o lapswchan caf ddwyawr o strach!

Rhwng dau a dwy, a thri a thair,
Mae ’mhen i yn troi fel olwyn ffair ;
Mae cath yn gath, a’r gath yn chath,
Allwedd yn ’goriad, llefrith yn lla’th!

Mae’n groten ffein, ond yn hogan glên,
A’r enath grintach yn rhoces fên ;
Cadno yn llwynog, a bord yn fwrdd,
Darfod yn bennu, maharan yn hwrdd!

Panad yw dished, isho yw moyn,
Ffwr’ â chdi nawr, yn llamu fel oen!
Benthyg a mincid, twgyd a dwyn
Geiriau o bobman - mae’n farus, mae’n fwyn.

Mae’n denu a gwenu, ffromi a siomi,
Bregus a brochus, llon fel y lli ;
Hon yw fy wejen, fy halen a’m hufen,
Hon yw’r anwylyd sy’n fywyd i fi!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau