Mirain Haf fu'n dysgu Cymraeg i Josh O'Connor
Bu'n rhaid i Mirain arwyddo cytundeb 'Non Disclosure', yn addo na fydda hi yn dweud dim am be oedd hi yn mynd i fod yn ei wneud, a hynny cyn iddi wybod beth oedd y dasg o'i blaen, sef dysgu Cymraeg i'r actor Josh O'Conner oedd yn portreadu'r Tywysog Charles yng nghyfres The Crown.
Fe anfonodd y cwmni cynhyrchu ychydig o olygfeydd i Mirain eu gweld o gyfnod yr arwisgiad, a hithau'n gorfod dweud wrthyn nhw nad oedden nhw'n adlewyrchiad teg o Gymru ar y pryd.
Roedd y sgript wreiddiol yn awgrymu rhyw ddiweddglo Disney - fod pawb wir yn hoffi a charu'r teulu brenhinol, ond chwarae teg i'r cynhyrchwyr, mi wnaethon nhw gymryd popeth yr oedd Mirain wedi ei ddweud i ysgtyriaeth a newid y golygfeydd i fod yn adlewyrchiad mwy Cymreig o'r cyfnod.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Gigs a chyngherddau eiconig
Hyd: 13:04
-
Hanes y sbectol haul
Hyd: 12:39
-
Dynwared lleisiau
Hyd: 08:17