Main content

"Bywyd Mewn Cromfachau" gan Karen Owen

BYWYD MEWN CROMFACHAU

Y mae hi'n hwyr,
neu y mae hi'n fuan iawn,
ac mae'r profi wedi'i wneud;

trwy ffeiliau dua"r nos
b没m yn stryffaglu,
yn rhyfeddu ac yn rhesymu
ar bapur graff fy modolaeth,
er mwyn gallu dweud
fod rhyw bethau bach yn hafal i bethau eraill.

"Profwch hyn" meddai'r cwestiwn...
ac mi wnes!

Ond hyd yn oed
ar ddiwedd xhwe phejan o weithio allan,
a llond dalennau o groesi allan,
o osod mewn cromfachau
ddyheadau a diffiniadau
a phrofiadau hyn o fyd,
mae'r ateb yn rhy blaen, rywsut;
yn ddifywyd o foel ac yn fud.

Waeeth nid yn y datrysiad y mae'r ateb.

Mae hwnnw wwdi'i ffactorio mewn cromfachau,
wedi'i rannu, wedi'i sgwario
yn benderfyniadsu ar y daith:
a dyna pam mai yno,
yn ein parhad a"n parenthesis,
y mae bywyd
sy'n cyfri
y tu hwnt i rifau.

Rhaglen Aled Hughes
Mawrth 3, 2020

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o