Main content

Karen Owen - Ar 么l hyn i gyd

mae 'na fwy na ryw feirws
rhwng brawd a brawd,
pan mae un yn gyfoethog
a'r llall yn dlawd...

am nad oes gan y rheiny
sydd ag arian i ffoi
yr amgyffred lleia'
o be 'di gorfod ymdroi...

ac er bod hi'n antur
cael byta o dun,
mae ochor arall y geiniog
yn methu fforddio gwneud hyn...

nid oes panig na blysio
am bapur, yn siwr,
pan mae'r ciwiau na welwn
yn ddiolchgar am dd诺r...

ac mae medru gweld heibio
i'n peswch a'n gwres,
yn gysur unochrog -
pan mae gynnoch chi bres.

Karen Owen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau

Daw'r clip hwn o