Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Fawrth 2020

Y Foryd Fach, Dofednod, Mary Bott o Aberteifi a Rowland Williams o Califfornia

"S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …"

Galwad Cynnar
Dydd Sadwrn 21/03/20
Y Foryd Fach
"…Rhys Jones yn disgrifio'r Foryd Fach ger Caernarfon. Mae'r Foryd yn lle pwysig iawn o ran byd natur ac mae'n bosib gweld adar arbennig iawn yno. Dyma flas ar sgwrs Rhys Jones ar Galwad Cynnar bore Sadwrn diwetha... "
amrywiaeth - variety
nodweddiadol - typical
gwyddau duon - black geese
unigryw - unique
gaeafu - to spend winter
gorgyffwrdd - to overlap
cynyddu - to increase
daearyddiaeth - geography
ddim mor gyfarwydd - not as familiar
deheuol - southernly

Rhaglen Ifan Evans
Iau – 19/03/20
Dofednod
"Darlun o'r Foryd Fach ger Caernarfon yn fan'na ar Galwad Cynnar. Mi wnawn ni aros efo adar yn y clip nesa gan ei bod hi'n Ddiwrnod Dofednod dydd Iau diwetha – cyfle i ddathlu ein ffrindiau bach pluog. A gwestai Ifan Evans oedd rhywun sydd wrth ei fodd ynghanol y plu i gyd yn enwedig yr ieir, sef Paul Williams o Gwrtnewydd, Ceredigion. Gofynnodd Ifan iddo fe o ble daeth y diddordeb mewn ieir... "
dofednod - poultry
pluog - feathery
Y sioe Frenhinol - The Royal Welsh Show
trybini - misery
crwtyn - a boy
ceiliog - a cockerel
y ffefryn - the favourite
pert - pretty
o mawredd - oh goodness
dodwy - to lay

Ifan Evans
Dydd Mawrth 17/3/20
Mary Bott
" A dyn ni'n mynd i aros gyda rhaglen Ifan am y clip nesa sef sgwrs gyda Mary Bott o Aberteifi Mae Mary yn dipyn o gymeriad ac yn fflyrtian dipyn bach efo Ifan... "
nes ymlaen - later on
egni - energy
iengach - remind
casglu - to collect

Hwyrnos Georgia Ruth
Mawrth 17/03/20
loergan
"Anodd iawn i Mary gadw'n dawel am ddwy awr swn i'n meddwl...
Sian Eleri oedd yn cyflwyno yn lle Georgia Ruth nos Fawrth a’i gwestai oedd Griff Lynch o'r band Yr Odds. Buodd Griff a Sian yn siarad am sioe gerdd Eisteddfod Genedlaethol eleni o’r enw Lloergan. Griff a’i frawd Lewys Wyn sydd wedi ysgrifennu’r gerddoriaeth - oedd y ffaith eu bod nhw mor agos at ei gilydd wedi helpu'r broses tybed?"
sioe gerdd - musical
yn ormodol - too much
strwythur - structure
yn hytrach na - rather than
yn rhy draddodiadol - too traditional
canolbwyntio - to concentrate

Bore Cothi
Llun – 16/03/20
Côr Ona
"Griff Lynch oedd hwnna yn sôn am y sioe gerdd 'Lloergan'. Wel mae hi'n adeg bryderus iawn on'd yw hi? Ond er mwyn codi ein calonnau mae Catrin Angharad Jones neu Catrin 'Toffoc' fel mae llawer yn ei galw wedi creu tudalen Facebook o'r enw Côr Ona, lle mae pobl yn postio fideos ohonyn nhw eu hunain, neu eu plant yn canu. Mae yna thema gwahanol bob dydd - caneuon i famau oedd thema dydd Sul wrth gwrs gan ei bod yn Sul y Mamau. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Shan Cothi gyda Catrin..."
y llais - the voice
syniadau gwirion bost - ridiculous
cyhoeddiadau - notifications
hunan ynysu - self isolating
ymarferion - rehearsals
wyneb yn wyneb - face to face
emynau - hymns
y to hÅ·n - the older generation
mi anwyd… - ...was born

Dros Ginio
Llun - 16/03/20
Rowland Wiliams
"Catrin 'Toffoc' yn fan'na yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y dudalen Facebook Côr Ona. Mae'r peiriannydd Rowland Williams yn dod o Rhigos yn wreiddiol ond nawr mae'n yn byw Martinez ger San Francisco. Dyw e ddim wedi byw yng Nghymru ers dros bedwar deg o flynyddoedd ond dyw e heb golli acen ardal Morgannwg o gwbl. Dyma fe'n siarad gyda Dewi Llwyd... "
peiriannydd - engineer
llywodraeth - government
yn gyson - regularly
heolydd - roads
ddim yn fodlon - unwilling
anghyfforddus - uncomfortable
edrych yn syn - looked in astonishment
yn rhyfeddol - wonderfully
y gyfrinach - the secret

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

17 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru,

Podlediad